Radnor Primary School
Mae Ysgol Gynradd Radnor yn mynd ati fel ysgol gyfan i sefydlu diwylliant o deithio llesol ym mywyd yr ysgol. O adael i ddisgyblion arwain y ffordd i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol, mae’r ysgol wedi datblygu llawer o brosiectau i gael mwy o blant i fod yn egnïol a theithio’n llesol.
Mae gan yr ysgol Griw Teithiau Llesol, rhan o Senedd yr ysgol, lle mae disgyblion yn datblygu syniadau a mentrau i annog teithio llesol i’r ysgol. Mae digwyddiadau ysgol gyfan fel Calan Gaeaf Sgwterog / Sbwcio’ch Sbôcs yn gyfle i bob disgybl gymryd rhan. Mae disgyblion hefyd wedi datblygu eu mentrau eu hunain fel ‘Boot N Scoot‘. Mae’r prosiect hwn yn annog teuluoedd sy’n byw ychydig ymhellach o’r ysgol i wneud rhan o’u taith yn llesol.
Menter ddiweddaraf yr ysgol yw partneriaeth gyda Puffa Jones a phrosiect Free Bikes 4 Kids. Gan ddefnyddio beiciau wedi’u hadnewyddu a ddarperir gan Puffa Jones, mae Ysgol Gynradd Radnor yn bwriadu rhoi beiciau i ddisgyblion nad ydynt yn berchen ar feic fel y gallant roi cynnig ar feicio i’r ysgol. Nod yr ysgol erbyn diwedd y prosiect hwn yw sicrhau bod gan bob disgybl yn Radnor feic ac felly’r opsiwn i feicio i’r ysgol.
Meddai Kane Morgan, athrawes Blwyddyn 6 ac Arweinydd Gweithgarwch Corfforol wrthym
‘Mae bod yn egnïol yn y bore wedi ei brofi ei fod yn sicrhau bod eich ymennydd yn gweithredu’n well. Mae disgyblion yn iachach ac yn fwy effro i ddechrau gwersi.’
Nid yw’n ymwneud â’r daith i’r ysgol yn unig. Fel un o’u cyrsiau ‘Prifysgol Radnor’, cymerodd y disgyblion ran mewn sesiynau beicio gyda Beicio Cymru tra bod disgyblion Blwyddyn 5 a 6 ar fin cymryd rhan mewn gweithdy i gynorthwyo’r gwaith o ddylunio seilwaith newydd y tu allan i’w hysgol. Mae hyn yn rhan o Gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau gan Gyngor Caerdydd.
Mae’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys ymgorffori eu Fflyd Feiciau newydd ei gaffael i wersi Addysg Gorfforol a hyfforddi dau athro i fod yn arweinwyr reidio. Eu dyhead yw cynnwys reidiau dan arweiniad fel rhan o’r diwrnod ysgol sy’n cefnogi eu profiad dysgu iechyd a llesiant. Gydag uchelgeisiau pellach yn y dyfodol o sefydlu bysiau beicio i ddisgyblion ynghyd â rhai athrawon er mwyn teithio i’r ysgol gyda’i gilydd.
Os hoffech wybod mwy am y cymorth sydd ar gael i ysgolion hyrwyddo teithio llesol, gan gynnwys y Fflyd Feiciau, cysylltwch â cynlluniauteithio@caerdydd.gov.uk
Mae’r Criw Teithiau Llesol yn rhan o raglen Teithiau Llesol Sustrans. Mae’r ysgol wedi bod yn gweithio gyda Sustrans Cymru ers 2 flynedd ac yn argymell gwneud cais i fod yn rhan o’r rhaglen i ddechrau taith eich ysgol tuag at deithio llesol. Gallwch wneud cais i raglen Teithiau Llesol Sustrans yma.