Gwybodaeth

Cerddwch i’r Gwaith

30 munud o ymarfer corff dwyster cymedrol, o leiaf pum diwrnod yr wythnos, yw’r lefel gweithgarwch a argymhellir i oedolion. Mae cymudo llesol yn ffordd syml o ychwanegu gweithgarwch corfforol at eich diwrnod arferol.

Mae modd cyfuno cerdded â theithiau bws neu drên yn hawdd – sy’n rhoi’r cyfle i chi fod yn actif hyd yn oed ar deithiau hirach.

Mae adnoddau ar gael ar dudalen Cynllunio’ch Taith i’ch helpu.

Gwybodaeth

Cerdded i’r Ysgol

Mae’r Llywodraeth yn dweud y dylai plant wneud 60 munud o weithgarwch corfforol cymedrol bob dydd.  Gellir gwneud mwy’n raddol mewn cyfnodau 10 munud dwys yn ystod y diwrnod.

Mae athrawon yn dweud bod plant sy’n cerdded i’r ysgol yn cyrraedd yn barod ar gyfer eu diwrnod ac yn canolbwyntio’n well.

Efallai bod gan eich ysgol ‘fws cerdded’ eisoes neu efallai yr hoffech chi gwrdd â’ch ffrindiau a’ch cymdogion i gerdded.

Beth am edrych ar Wythnos Cerdded i’r Ysgol a Mis Cerdded i’r Ysgol? Nod y rhain yw eich helpu i ddechrau.