Cerdded
Mae troedffyrdd lletach, mwy o groesfannau i gerddwyr mewn mannau defnyddiol, traffig arafach a llai o annibendod ar y strydoedd bob un yn gwneud Caerdydd yn amgylchedd gwell i gerddwyr.
Yn ogystal â hynny, mae dewis gwych o fannau glas yng Nghaerdydd sydd â llwybrau di-draffig delfrydol ar gyfer cymudo neu hamdden.
Mae’r prif lwybrau ar gyfer cerdded a beicio yng Nghaerdydd yn cynnwys:
- Taith Rhymni – sy’n rhedeg am 3.5 cilometr gan gysylltu Tredelerch a Llanrhymni yn y dwyrain â Llanedern a Phentwyn yn y gorllewin, trwy Erddi Bryn Tredelerch.
- Llwybr Elái – sy’n cysylltu Sain Ffagan â’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd, lle mae’n ymuno â Llwybr y Bae.
- Llwybr y Bae – taith gylchol 10 cilometr sy’n cynnwys atyniadau’r Bae, Pont y Werin a’r morglawdd.
- Llwybr Nant Fawr – sy’ n cynnig taith braf yn cysylltu Gerddi Waterloo yn y de â Llwybr Ridgeway yn y gogledd.
- Yn olaf, y Daith Taf hanesyddol – sy’n mynd o’r gogledd tua’r de ar hyd glannau Afon Taf, gan gysylltu Bae Caerdydd, canol y ddinas a Pharc Bute a chan orffen yng nghanol Aberhonddu. Mae’r llwybr hwn yn 89 cilometr o hyd.
Mae rhagor o wybodaeth am Barciau Caerdydd ar gael yma: Awyr Agored Caerdydd