Cerdded i’r Ysgol
Mae’r Llywodraeth yn dweud y dylai plant wneud 60 munud o weithgarwch corfforol cymedrol bob dydd. Gellir gwneud mwy’n raddol mewn cyfnodau 10 munud dwys yn ystod y diwrnod.
Mae athrawon yn dweud bod plant sy’n cerdded i’r ysgol yn cyrraedd yn barod ar gyfer eu diwrnod ac yn canolbwyntio’n well.
Efallai bod gan eich ysgol ‘fws cerdded’ eisoes neu efallai yr hoffech chi gwrdd â’ch ffrindiau a’ch cymdogion i gerdded.
Beth am edrych ar Wythnos Cerdded i’r Ysgol a Mis Cerdded i’r Ysgol? Nod y rhain yw eich helpu i ddechrau.