Teithio Bws Hygyrch
Ar lawer o wasanaethau bws yng Nghaerdydd mae’r llawr yn is ac mae gan rai gyhoeddiadau llafar a thestun i roi gwybod y safle nesaf. Mae cynlluniwr taith Traveline Cymru yn cynnwys logo hygyrchedd glas ar ganlyniadau teithiau sy’n dangos p’un a yw’r gwasanaeth yn hygyrch i bobl sydd â nam symudedd neu sy’n defnyddio cadeiriau olwyn, cadeiriau babi a bygis ac ati.
Yn ogystal â hynny mae gan Traveline Cymru ragor o wybodaeth i deithwyr ac anabledd.
Mae’r cynllun waled oren yn helpu unigolion sy’n ei chael yn anodd cyfathrebu, yn enwedig y sawl sydd ar y Sbectrwm Awtistig, i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn haws.
Mae modd cael Waledau Oren am ddim mewn unrhyw lyfrgell yng Nghaerdydd.