Cardiau teithio
Mae cardiau rheilffordd yn gallu ei gwneud yn rhatach i deithio.
Dilynwch y dolenni isod i weld rhagor am y gwahanol opsiynau.
- Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau
- Cerdyn Rheilffordd 16-25 oed
- Cardiau Rheilffordd i Bobl Hŷn
- Cardiau Rheilffordd Trenau Arriva Cymru – gan gynnwys Cerdyn Rheilffordd i Fyfyrwyr, Llwybrau’r Cymoedd, Gwasanaethau Lleol yng Nghaerdydd a Thocynnau i’r Gwaith
- Cerdyn Rheilffordd i Bobl Anabl
Os nad oes gennych chi Gerdyn Rheilffordd ac rydych chi’n ddall neu mae nam ar eich golwg, ac rydych chi’n teithio gyda chydymaith, neu os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn, gallwch chi gael tocynnau ‘Unrhyw Bryd’ am bris gostyngol.
Bydd rhai gweithleoedd yn cynnig benthyciadau tocyn trên am y tymor felly os ydych chi’n gweithio, gallai fod yn werth chweil gofyn i’ch cyflogwr.