Pam rydyn ni’n cynnig y newidiadau hyn?

Mae rhwydwaith trafnidiaeth y Ddinas eisoes dan bwysau. Mae dros 75,000 o bobl yn cymudo i Gaerdydd o ardaloedd y tu allan i’r Ddinas bob dydd, gydag 80% yn teithio mewn car. Y car preifat yw’r dull teithio amlycaf ar gyfer teithiau cymudwyr yn y Ddinas, sy’n cyfateb i 57% o deithiau.

Mae twf poblogaeth a chyflogaeth yn y dyfodol yn debygol o gynyddu lefelau traffig 32%. Heb ymyriadau trafnidiaeth, mae’r problemau hyn yn debygol o waethygu

Ansawdd Aer

Traffig a thagfeydd yw’r prif gyfranwyr at ansawdd aer gwael, a all effeithio ar bawb, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gydag effeithiau sylweddol ar iechyd, datblygiad plant ac ansawdd yr amgylchedd. Mae ffigurau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod nifer y marwolaethau y flwyddyn y gellir eu priodoli i ansawdd aer gwael wedi cynyddu i dros 225 ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae Heol y Porth wedi’i chynnwys yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer dynodedig Canol y Ddinas (AQMA) oherwydd ei ansawdd aer gwael. Bydd ein cynigion yn cyfrannu’n sylweddol at wella’r sefyllfa bresennol trwy gael gwared ar draffig trwodd ar hyd Heol y Porth a gwella mynediad at deithio llesol a chynaliadwy.

Gwella Diogelwch

Rhwng 2011 a 2015, digwyddodd 21 o wrthdrawiadau ar Heol y Porth, gyda hanner y damweiniau hyn yn ymwneud â cherddwyr. Canfu’r astudiaeth “Bywyd Beicio Caerdydd” a gynhaliwyd yn 2017 yr hoffai 79% o drigolion weld mwy o arian yn cael ei wario ar feicio a 79% yn cefnogi adeiladu llwybrau beiciau gwarchodedig.

Bydd ein cynigion ar gyfer llwybrau beicio ar wahân newydd yn gwahanu beicwyr oddi wrth draffig cerbydau. Bydd cerddwyr yn elwa ar welliannau i’r parth cyhoeddus i greu llwybrau deniadol gyda gwell cyfleusterau croesi.

Annog teithio llesol yng Nghaerdydd

Mae cyflwyno Nextbike i Gaerdydd wedi darparu ffordd hawdd i bobl ddechrau beicio. Ar hyn o bryd mae dros 16,000 o ddefnyddwyr cofrestredig. Hoffai 57% o breswylwyr Caerdydd ddechrau reidio beic neu hoffent reidio mwy ar eu beic.

Mae Llwybr Beicio Gorllewin Canol y Ddinas yn rhan o rwydwaith ehangach o bum Llwybr Beicio newydd a fydd yn cysylltu cymunedau â chyrchfannau mawr ledled y Ddinas.

Diogelu trafnidiaeth gyhoeddus a’r gyfnewidfa newydd

Fel rhan o ddarparu cyfnewidfa fysus newydd yn y Sgwâr Canolog, byddwn yn cyflwyno newidiadau i’r rhwydwaith priffyrdd lleol i flaenoriaethu effeithlonrwydd a dibynadwyedd bysus tuag at y gyfnewidfa.

Bydd y gyfnewidfa newydd yn darparu cyfleuster o ansawdd uchel a fydd yn cefnogi cysylltiadau rhwng dulliau, gan gynnwys rheilffyrdd, ar draws Caerdydd a’r Ddinas-Ranbarth. Bydd ein cynigion ar gyfer Gorllewin Canol y Ddinas yn integreiddio â’r cyfleuster hwn a’r rhwydwaith ehangach i roi cyfle i bobl deithio’n gyfan gwbl trwy ddulliau cynaliadwy.

Gwella Lleoedd

Mae ardal Prosiect Gwella Trafnidiaeth Gorllewin Canol y Ddinas yn cynnwys cyrchfannau pwysig fel Stadiwm y Principality, Castell Caerdydd, a’r Sgwâr Canolog, yn ogystal â chanolfannau economaidd pwysig. Er gwaethaf hyn, nodweddir yr ardal ar hyn o bryd gan dir cyhoeddus o ansawdd gwael, ffyrdd llydan sy’n blaenoriaethu symudiad cerbydau, a seilwaith sydd wedi’i ddifrodi.

Bydd ein cynigion yn darparu porth o ansawdd uchel i’r cyrchfannau hyn ac yn uwchraddio cysylltedd yng Nghanol y Ddinas ac i’r rhanbarth ehangach.

Creu Twf

Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain a rhagwelir y bydd yn tyfu fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Rhaid rheoli’r twf hwn mewn ffordd gynaliadwy trwy fabwysiadu dulliau newydd ac arloesol. Mae Gorllewin Canol y Ddinas yn rhan o strategaeth integredig ehangach i sicrhau newid sylweddol yn y nifer sy’n teithio’n gynaliadwy, a fydd yn cyfrannu’n sylweddol at fynd i’r afael â phroblem tagfeydd (a materion cysylltiedig) yng Nghaerdydd.