Heol y Porth

Gwelliannau ar gyfer beicio

  • Lôn feicio ar wahân parhaus ar hyd y ddwy ochr o Heol y Porth.
  • Bydd arwyddion ar y gyffordd rhwng Heol y Porth a Heol y Parc, gyda darpariaeth i feicwyr.
  • Bydd y gyffordd â Heol y Porth yn cysylltu’r ddarpariaeth seiclo â’r brif Feicffordd ar Stryd y Castell

Gwelliannau ar gyfer cerddwyr

  • Tirlunio o ansawdd uchel a gwell dodrefn stryd.
  • Bydd mwy o dir cyhoeddus drwy ail-lunio’r lôn gerbydau.

  • Croesfan newydd i gerddwyr drwy ardal gyfan y project

Gwelliannau i fysus

  • Lleihau traffig ar ôl gosod porth bysus
  • Rhesymoli safleoedd bws i gyd-daro ag agoriad y Gyfnewidfa Drafnidiaeth

Dyluniad a chynllun y ffordd

  • Bydd Heol y Porth yn newid i un lôn i bob cyfeiriad ar hyd llawer o’i hyd.
  • Bydd gât fysus yn cyfyngu symudiadau traffig ar hyd Heol y Porth.
  • Rhoddir cyfle i draffig cyffredinol droi yn ôl cyn y giât fysus trwy ddefnyddio dolen unffordd Plas y Neuadd a’r Gwter.

Parcio a Llwytho

  • Bydd pob pwynt mynediad presennol yn cael ei gadw gyda mynediad o’r gogledd