Sgwâr Canolog

Gwelliannau ar gyfer beicio

  • Lôn feicio ar wahân newydd ar ddwy ochr Stryd Wood.
  • Bydd gan symudiadau beicwyr ar gyffyrdd Stryd Havelock a Heol y Porth gam traffig fydd yn benodol i feicwyr yn unig.
  • Bydd Heol y Porth Isaf yn cynnwys lôn feicio tua’r gogledd.
  • Bydd beicwyr tua’r de o Heol y Porth yn cael eu tywys ar hyd lwybr beicio grisiog cyfatebol a ddarperir ar Stryd y Parc a Stryd Havelock.

Dyluniad a chynllun y ffordd

  • Bydd y cyfyngiad unffordd ar Stryd Havelock yn cael ei wrthdroi i ddod tua’r de yn unig ac wrth gyffordd Stryd Wood, bydd yn ofynnol i bob cerbyd droi i’r dde.
  • Bydd Heol y Parc (rhwng Heol Scott a Stryd Havelock) yn cyfuno i gyfeiriad y dwyrain.

  • Porth bysus ar Heol y Porth Isaf

Gwelliannau ar gyfer cerddwyr

  • Croesfan newydd a gwell i gerddwyr drwy ardal gyfan y project.
  • Croesfannau llydan ag amseryddion sy’n cyfrif i lawr
  • Gwelliannau tir cyhoeddus

Newidiadau i fysus

  • Porth blaenoriaethu bysus ar Heol y Porth Isaf
  • Lonydd bysus newydd ar Heol y Porth Isaf
  • Safleoedd bysus newydd ar Stryd Wood

Parcio a Llwytho

  • Cedwir mynediad ar gyfer llwytho a pharcio
  • Bydd mynediad i Sgwâr Canolog o’r de ac i Heol y Porth o’r gogledd.
  • Cedwir mynediad at Heol y Parc drwy greu dolen unffordd gan ddefnyddio Heol Scott, Heol y Parc a Stryd Havelock.
  • Am fapiau llwytho a mynediad, cliciwch yma