Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.
Strydoedd Ysgol
Mae ceir yn aml yn llenwi ffyrdd ger gatiau ysgolion – gyda llawer ohonyn nhw’n peryglu plant ac yn cyfrannu at lefelau llygredd uchel yn yr ardal.
Ein dymuniad ni yw y gall plant Caerdydd fynychu’r ysgol mewn ffordd mor ddiogel â phosibl ac o 6 Ionawr 2020 rydyn ni wedi bod yn treialu cynllun strydoedd ysgol i helpu i leihau traffig o amgylch mynedfeydd rhai ysgolion yn ystod oriau brig cyrraedd a gadael. Yn ystod y tymor, ni chaniateir i gerbydau modur yrru ar y strydoedd o amgylch ein hysgolion peilot ar ddyddiau’r wythnos rhwng 8.30am a 9.15am a rhwng 2.45pm a 3.45pm.
Mae arwyddion yn rhoi gwybod i yrwyr am y cyfyngiadau wrth fynedfa stryd yr ysgol a bydd Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei roi i unrhyw gerbydau sy’n mynd iddi heb hawl yn ystod y cyfnodau pan fo’r cyfyngiadau ar waith. Gall preswylwyr wneud cais am drwydded am ddim, ac mae gan ddeiliaid bathodynnau glas fynediad bob amser.