Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.
Beicio
Gall beicio fod yn ffordd gyflym, effeithlon, rhwydd a difyr o deithio, yn enwedig ar gyfer siwrneiau sydd ychydig yn rhy bell i’w cerdded.
Gall eich helpu i arbed arian a’ch gwneud yn fwy heini ac iach. Mae modd teithio mor gyflym ag y mynnoch chi yn yr awyr iach ac mae mwy a mwy o bobl yn dewis beicio i fynd i’r gwaith ac i fwynhau.
Mae gan Gaerdydd lwybrau ar y ffordd a llwybrau braf mewn mannau gwyrdd. Mae gwelliannau’n cael eu gwneud yn barhaus er mwyn helpu’r rhwydwaith beicio i dyfu a gwella.
Nod yr adnoddau ar y tudalennau hyn yw eich helpu i wneud beicio’n rhan o’ch opsiynau teithio.