Cod Ymddygiad
Rydym ni’n awyddus i sicrhau y gall pawb fwynhau llwybrau di-draffig a rennir.
Yn dilyn ymgynghoriad estynedig â cherddwyr a beicwyr, mae cod ymddygiad wedi’i ddatblygu i annog perthynas weithio da rhwng cerddwyr a beicwyr. Mae’r cod yn cydnabod bod gennym ni i gyd rôl i’w chwarae wrth wella sut rydym ni’n rhyngweithio ar y llwybrau ac mae hyn yn seiliedig ar rannu gofodau mewn modd parchus.
Mae gan y cod y negeseuon syml canlynol:
- Cadwch i’r chwith
- Beicwyr – canwch eich cloch
- Beiciwch yn araf
- Cadwch eich cŵn dan reolaeth