Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.
Beicio i’r ysgol
Mae llawer o fentrau yng Nghaerdydd a chenedlaethol sy’n hyrwyddo ac annog beicio i’r ysgol ac yn ystod amser hamdden.
- Mae ystod o gyrsiau hyfforddi beicio ar gael ar gyfer plant ac oedolion o bob gallu. Gweler rhagor o wybodaeth ar y tudalennau Hyfforddiant Beicio.
- Mae Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Caerdydd hefyd yn cynnig cyrsiau am ddim i blant yn ystod y gwyliau a chyrsiau penwythnos achlysurol dros yr haf i blant yn eu harddegau ac oedolion (
- Gofynnwch i ysgol eich plentyn a yw’n rhan o broject Sustrans, sy’n annog plant (a rhieni!) i hyrwyddo beicio a sefydlu diwylliant sy’n gadarnhaol tuag at feicio ymhlith plant a rhieni trwy’r ddinas. I gael rhagor o wybodaeth ewch www.sustrans.org.uk/cy/cymru.