Cyfleusterau a Cyfarpar

Parcio Beiciau a Sgwteri

Yn amlwg, ni all plant ddefnyddio’u beiciau na’u sgwteri i fynd i’r ysgol os nad oes unman i’w parcio’n ddiogel wedi iddyn nhw gyrraedd. Felly mae Cyngor Caerdydd wrthi’n rhagweithiol yn gwneud cais am grantiau Llywodraeth Cymru i helpu i ddarparu cyfleusterau parcio beiciau a sgwteri diogel dan gysgod yn yr ysgolion presennol. Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi llwyddo gyda’n ceisiadau am grantiau ac wedi gallu gosod llochesi beiciau newydd sbon, lleoedd parcio beiciau a lleoedd parcio sgwteri mewn 28 ysgol ledled Caerdydd yn ddiweddar. Bwriadwn wneud cynifer ag y gallwn tra bo’r gronfa hon ar gael.  Mae’r grant hwn yn arbennig ar gyfer ysgolion hŷn y mae angen y cyfleusterau arnynt gan ychwanegu at eu darpariaeth bresennol (neu ddarpariaeth nad yw’n bodoli eisoes).  Cysylltwch â ni i fynegi diddordeb os ydych chi’n meddwl bod angen mwy o gyfleusterau parcio beiciau/sgwteri ar eich ysgol chi.  Os yw’r gronfa ar gael o hyd byddwn yn ceisio cael yr hyn sydd ei angen arnoch.

Newid seilwaith y tu allan i gatiau’r ysgol, e.e. croesfannau, palmentydd

Pan fyddwn yn gweithio gydag ysgolion i greu cynllun teithio, rydyn ni hefyd yn trafod unrhyw broblemau a allai fod ganddyn nhw o ran y seilwaith y tu allan i gatiau’r ysgol, megis croesfannau.  Rydyn ni’n cydweithio â phobl i geisio rhoi’r newidiadau hyn ar waith i wneud y palmentydd a’r ffyrdd yn fwy diogel.

Fflyd Beiciau Ysgol

Mae’r cynllun Fflyd Beiciau Ysgol yn cynnig fflyd o feiciau i ddisgyblion eu defnyddio yn yr ysgol ar gyfer hyfforddiant beicio. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun yn brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Beicio Cymru a British Cycling. Gwnaeth cam cyntaf y cynllun ddarparu 32 o fflydoedd beic i ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Caerdydd.

Mae pob ysgol gynradd yn derbyn 20 beic disgybl, helmedau, cynhwysydd llong 10 troedfedd wedi’i ailgylchu, sy’n cynnwys storfa ddiogel, pecyn offer a phwmp beic, Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol, adnoddau a chynlluniau gwers a grëwyd gan Dîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Caerdydd i gefnogi’r ysgol i ymgorffori beicio yn eu cwricwlwm a Chysylltiad Clwb Am Ddim fel rhan o Raglen Go-Ride HSBC UK Beicio Cymru.

Mae ysgolion uwchradd yn cael 30 beic disgybl, 2 feic athro, helmedau, cynhwysydd llong 20 troedfedd wedi’i ailgylchu, sy’n cynnwys storfa ddiogel, pecyn offer a phwmp, Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol a chynlluniau gwers a grëwyd gan Dîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Caerdydd a Chysylltiad Clwb Am Ddim fel rhan o Raglen Go Ride HSBC UK Beicio Cymru.

Mae’r cynllun hefyd yn gallu darparu fflydoedd beic pwrpasol i leoliadau addysg eraill.

Mae’r Tîm Ysgolion Teithio Llesol yna yn gweithio gydag Ysgolion y Fflyd Beiciau Ysgol i greu Cynllun Teithio Llesol pwrpasol.

Bydd 32 Fflyd Beiciau Ysgol arall yn cael eu darparu yng ngham 2 y cynllun.

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Living Streets WOW

Gweld Project

Dolenni i Sefydliadau rydyn ni’n gweithio â hwy

Gweld Project