Ysgolion ar gyfer y Dyfodol

Mae gan Gaerdydd raglen i ddarparu ysgolion cynradd ac uwchradd newydd ac wedi’u huwchraddio i gwrdd â safonau’r Unfed Ganrif ar Hugain mewn addysgu a dysgu.  Gelwir yr ysgolion newydd yn ‘Ysgolion yr 21ain Ganrif’ ac fe’u cynllunnir i fod yn effeithlon ac yn gynaliadwy.   Mae hyn yn cynnwys cyfleusterau i gefnogi mwy o ddisgyblion a staff i deithio mewn ffordd lesol a chynaliadwy i’r ysgol ac mae ein tîm yn gweithio i sicrhau bod yr ysgolion newydd yn cael eu cynllunio gyda theithio llesol mewn golwg.

Rydyn ni’n gweithio gyda thimau addysg, trafnidiaeth a dylunio a’r ysgol ei hun. Mae un o’n swyddogion teithio llesol yn gweithio gyda staff yr ysgol i ddatblygu cynllun teithio llesol ar gyfer yr ysgol newydd.

Gall cyfleusterau a mesurau ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif  gynnwys:

  • Cyfleusterau parcio diogel dan gysgod ar gyfer beiciau a sgwteri
  • Llwybrau diogel i’r ysgol
  • Llwybrau beicio
  • Croesfannau diogel
  • Stryd ysgol (lle bo’n addas)
  • Mesurau diogelwch ar y ffyrdd eraill
  • Loceri (ar gyfer helmedau ac offer beicio)
  • Cawodydd a chyfleusterau newid i staff 

2 esiampl o’r ysgolion hyn yw Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Mair Ddihalog.

Cliciwch yma i ddarllen astudiaeth achos Ysgol Uwchradd Fitzalan

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Living Streets WOW

Gweld Project

Dolenni i Sefydliadau rydyn ni’n gweithio â hwy

Gweld Project