Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.
Gwersi Teithio Llesol
Rydym wedi creu 2 gynllun gwaith, yn seiliedig ar y thema teithio llesol. Mae un yn seiliedig ar chwarae, ac un dan arweiniad athro. Rydym yn eich annog i edrych ar y ddau a phenderfynu pa un sy’n fwy addas i allu eich disgyblion. Mae’r cynllun yn drawsgwricwlaidd, gydag Iechyd a Lles yn ffocws iddo. Mae 12 gwers, ynghyd â chyflwyniadau PowerPoint ac adnoddau y gall athrawon eu defnyddio yn eu lleoliad.
- Cynllunio
- Cyflwyniadau PowerPoint
- Adnoddau
Streetwise
Mae gennym hefyd gynlluniau wedi’i seilio ar ein Rhaglen Diogelwch ar y Ffyrdd Streetwise y gall athrawon eu defnyddio os nad yw Streetwise ar gael. Mae ynddo gynlluniau ar gyfer 5 gwers yn ogystal ag adnoddau a chyflwyniadau Powerpoint.