Cledrau Croesi Caerdydd

Dweud eich dweud ar brosiect Cledrau Caerdydd. Mae Cyngor Caerdydd a Trafnidiaeth Cymru (TC) yn cydweithio i ddarparu tramffordd newydd o Gaerdydd Canolog i Fae Caerdydd, i gyflawni cam cyntaf Cledrau Caerdydd. Bydd yn gwella cysylltedd rhwng canol y ddinas a’r Bae, ac o fudd i’r ddinas a’r rhanbarth ehangach. Bydd cam cyntaf y cynllun … Continued

Gwybodaeth

Cynllunio’ch Taith

Mae rhwydwaith beicio Caerdydd yn tyfu. Mae gennym ni nifer o lwybrau gydag arwyddion sy’n eich tywys trwy strydoedd ochr tawel ac oddi ar y ffyrdd mawr gan osgoi traffig yn gyfan gwbl.

Ewch i traveline-Cymru.info i gael cymorth gyda’ch taith feicio.

Mae Map Cerdded a Beicio Caerdydd RHAD AC AM DDIM yn dangos pob llwybr i gerddwyr a beicwyr ac mae’n fap defnyddiol iawn o’r ddinas.

I gael copi o’r map, cysylltwch â ni ar beicio@caerdydd.gov.uk.

Am deithiau beicio yng Nghaerdydd, dilynwch y ddolen isod – outdoorcardiff.com

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Cledrau Croesi Caerdydd

Gweld Project
Gwybodaeth

Beicio i’r Gwaith

Mae rhwydwaith beicio i’r gwaith yn cynnwys nifer o lwybrau swyddogol drwy strydoedd ochr tawel a llwybrau oddi ar y ffordd sy’n osgoi traffig yn gyfan gwbl.

Mae modd dod o hyd i lwybrau ar ein map Cerdded a Seiclo Caerdydd. I gael copi RHAD AC AM DDIM o’n map, cysylltwch â ni: beicio@caerdydd.gov.uk.

Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am gynllunio’ch taith feic ar y dudalen Cynllunio’ch Taith yn yr adran hon.

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Cledrau Croesi Caerdydd

Gweld Project
Gwybodaeth

Beicio i’r ysgol

Mae llawer o fentrau yng Nghaerdydd a chenedlaethol sy’n hyrwyddo ac annog beicio i’r ysgol ac yn ystod amser hamdden.

  • Mae ystod o gyrsiau hyfforddi beicio ar gael ar gyfer plant ac oedolion o bob gallu. Gweler rhagor o wybodaeth ar y tudalennau Hyfforddiant Beicio.
  • Mae Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Caerdydd hefyd yn cynnig cyrsiau am ddim i blant yn ystod y gwyliau a chyrsiau penwythnos achlysurol dros yr haf i blant yn eu harddegau ac oedolion (

    www.diogelwchffyrdd.caerdydd.gov.uk).

  • Gofynnwch i ysgol eich plentyn a yw’n rhan o broject Sustrans, sy’n annog plant (a rhieni!) i hyrwyddo beicio a sefydlu diwylliant sy’n gadarnhaol tuag at feicio ymhlith plant a rhieni trwy’r ddinas. I gael rhagor o wybodaeth ewch www.sustrans.org.uk/cy/cymru.

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Cledrau Croesi Caerdydd

Gweld Project
Gwybodaeth

Diogelwch Beiciau

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu mannau parcio pwrpasol ar gyfer beics i chi glymu’ch beic – defnyddiwch y rhain os oes un ar gael. Mae’r Cyngor yn darparu mwy o fannau parcio beic ble bynnag y gall.

Mae beiciau’n cael eu dwyn ond gallwch chi ei gwneud hi’n anos i’r lleidr trwy ddilyn y cynghorion canlynol gan Heddlu De Cymru:

  • Cadwch eich beic dan glo bob amser
  • Prynwch glo sydd wedi cael profion ymosodiad.
  • Gwariwch tua 10% o werth eich beic ar eich clo.
  • Clowch eich beic wrth rac beiciau diogel
  • Clowch y ffrâm a’r olwynion wrth y rac beiciau
  • Gadewch y bwlch lleiaf posibl rhwng y beic a’r clo.
  • Cadwch y clo oddi wrth y llawr.
  • Caewch y clo fel bod mecanwaith y clo’n wynebu tua’r llawr.
  • Ewch â bagiau beic, goleuadau, sedd sy’n disodli’n hawdd a chyfrifiaduron beic.

Cadwch gofnod o Rif Model a Ffrâm eich beic a thynnwch luniau da ohono, ac yn arbennig lluniau agos o nodweddion neu rannau unigryw.

Ewch i www.soldsecure.com/search/; i chwilio am glo ardystiedig neu holwch yn eich siop feics leol am gyngor ar gloeau a chofrestrwch fanylion eich beic ar y gofrestr eiddo genedlaethol am ddim: www.immobilise.com.

Os digwydd y gwaethaf:

  • Cofnodwch unrhyw wybodaeth am drosedd feics trwy ffonio 101.
  • Os yw trosedd yn digwydd ar y pryd, ffoniwch 999.

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Cledrau Croesi Caerdydd

Gweld Project
Gwybodaeth

Llogi Beiciau

Os nad oes gennych chi feic ond hoffech chi roi cynnig ar feicio am y dydd, mae ambell opsiwn i chi o ran llogi beic yng Nghaerdydd.

  • Mae Pedal Power ym Mhontcanna a Bae Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o feiciau i oedolion a phlant yn ogystal â beics tair olwyn a beics hygyrch arbennig ar gyfer pob gallu.
  • Lansiwyd cynllun llogi beiciau stryd Caerdydd ym Mai 2018. Mae’n cael ei redeg gan nextbike (UK) Ltd a bydd yn darparu 500 o feiciau hunanwasanaeth ar draws y ddinas. Nod y cynllun yw rhoi mynediad i feiciau i bobl sydd ddim am brynu beic neu heb le i gadw un, a’i gwneud yn haws i bobl ymuno â thrafnidiaeth gynaliadwy arall

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Cledrau Croesi Caerdydd

Gweld Project

Beicio

Gall beicio fod yn ffordd gyflym, effeithlon, rhwydd a difyr o deithio, yn enwedig ar gyfer siwrneiau sydd ychydig yn rhy bell i’w cerdded.

Gall eich helpu i arbed arian a’ch gwneud yn fwy heini ac iach.  Mae modd teithio mor gyflym ag y mynnoch chi yn yr awyr iach ac mae mwy a mwy o bobl yn dewis beicio i fynd i’r gwaith ac i fwynhau.

Mae gan Gaerdydd lwybrau ar y ffordd a llwybrau braf mewn mannau gwyrdd. Mae gwelliannau’n cael eu gwneud yn barhaus er mwyn helpu’r rhwydwaith beicio i dyfu a gwella.

Nod yr adnoddau ar y tudalennau hyn yw eich helpu i wneud beicio’n rhan o’ch opsiynau teithio.