Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.
Diogelwch Beiciau
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu mannau parcio pwrpasol ar gyfer beics i chi glymu’ch beic – defnyddiwch y rhain os oes un ar gael. Mae’r Cyngor yn darparu mwy o fannau parcio beic ble bynnag y gall.
Mae beiciau’n cael eu dwyn ond gallwch chi ei gwneud hi’n anos i’r lleidr trwy ddilyn y cynghorion canlynol gan Heddlu De Cymru:
- Cadwch eich beic dan glo bob amser
- Prynwch glo sydd wedi cael profion ymosodiad.
- Gwariwch tua 10% o werth eich beic ar eich clo.
- Clowch eich beic wrth rac beiciau diogel
- Clowch y ffrâm a’r olwynion wrth y rac beiciau
- Gadewch y bwlch lleiaf posibl rhwng y beic a’r clo.
- Cadwch y clo oddi wrth y llawr.
- Caewch y clo fel bod mecanwaith y clo’n wynebu tua’r llawr.
- Ewch â bagiau beic, goleuadau, sedd sy’n disodli’n hawdd a chyfrifiaduron beic.
Cadwch gofnod o Rif Model a Ffrâm eich beic a thynnwch luniau da ohono, ac yn arbennig lluniau agos o nodweddion neu rannau unigryw.
Ewch i www.soldsecure.com/search/; i chwilio am glo ardystiedig neu holwch yn eich siop feics leol am gyngor ar gloeau a chofrestrwch fanylion eich beic ar y gofrestr eiddo genedlaethol am ddim: www.immobilise.com.
Os digwydd y gwaethaf:
- Cofnodwch unrhyw wybodaeth am drosedd feics trwy ffonio 101.
- Os yw trosedd yn digwydd ar y pryd, ffoniwch 999.