Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.
Dolenni i Sefydliadau rydyn ni’n gweithio â hwy
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ennyn diddordeb teuluoedd ac ysgolion mewn Teithio Llesol. Dyma ddolenni at dri rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Living Streets yw elusen y DU ar gyfer cerdded bob dydd. Cenhadaeth yr elusen yw sicrhau amgylchedd cerdded gwell ac ysbrydoli pobl i gerdded mwy. Mae’n cynnig amrywiaeth o fentrau i ysgolion fel y pecyn Camau Bach i blant dan 5 oed, Traciwr Teithio WOW ar gyfer ysgolion cynradd, a Phontio, menter i gefnogi plant sy’n trosglwyddo i ysgolion uwchradd, yn ogystal â chynnal digwyddiadau fel ‘Wythnos Cerdded i’r Ysgol’. Mae Ysgolion Teithio Llesol yn gweithio’n agos gyda Living Streets ac yn ariannu y cynllun Traciwr Teithio WOW mewn 40 o ysgolion cynradd ledled Caerdydd. Anfonwch e-bost atom os hoffech gymryd rhan yn y cynllun hwn: cynlluniauteithio@caerdydd.gov.uk
Sustrans yw’r elusen sy’n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio. Gweledigaeth yr elusen yw ‘cymdeithas lle mae’r ffordd rydyn ni’n teithio yn creu lleoedd iachach a bywydau hapusach i bawb’. Mae’n gwneud llawer iawn o waith gydag ysgolion fel cynnal digwyddiadau fel ‘Wythnos Beicio i’r Ysgol’ a ‘Big Pedal’ Sustrans. Mae’n cynnal rhaglen o’r enw ‘Teithiau Egnïol’ mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru gan helpu plant i deithio i’r ysgol yn ddiogel, yn hawdd ac yn hyderus ar droed, beic a sgwter. Gall ysgolion wneud cais am gymryd rhan yn y rhaglen Teithiau Egnïol drwy gysylltu â’r elusen yn uniongyrchol.
Beicio Cymru yw corff llywodraethu cenedlaethol beicio yng Nghymru, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Beicio Prydain a’r Alban ac mae wedi’i leoli yn Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd. Ei uchelgais yw bod o leiaf 50% o blant yn gallu beicio erbyn 2030. Mae’n cynnig amrywiaeth o raglenni mewn ysgolion fel Barod i Feicio, sef adnodd digidol am ddim i rieni ac athrawon sydd am gefnogi plant i ddysgu beicio, Beicio i Ysgolion, sef hyfforddiant beicio hwyl a diddorol yn ogystal â rhaglenni hyfforddiant beicio eraill a hyfforddi hyfforddwyr ifanc.
Gweithiodd Beicio Cymru yn agos gyda Chyngor Caerdydd i sefydlu Fflyd Beiciau Ysgolion.
Cadwch Gymru’n Daclus sy’n rhedeg y rhaglen Eco-Sgolion yng Nghymru. Mae Eco-Sgolion yn rhaglen fyd-eang sy’n cynnwys 19.5 miliwn o blant ar draws 68 o wledydd, sy’n golygu mai dyma’r rhaglen addysg fwyaf ar y blaned. Mae’r rhaglen Eco-Sgolion yn broses 7 cam sydd wedi’i chynllunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’u cymuned ehangach. Ceir canllawiau manwl ar Eco-ysgolion ar gwefan Cadwch Gymru’n Daclus . Mae’r rhaglen Eco-ysgolion yng Nghymru yn cwmpasu 9 pwnc cydgysylltiedig i helpu ysgolion i ddatblygu dull mwy cyflawn o ymdrin ag ADCDF. Un o’r 9 pwnc a drafodir fel rhan o’r rhaglen yw trafnidiaeth. Gellir cynnwys unrhyw waith a wnewch ar deithio llesol fel rhan o gynllun gweithredu eco-ysgol a gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth ar gyfer eich dyfarniad nesaf.
Am ragor o wybodaeth am Eco-Sgolion yng Nghaerdydd cysylltwch â Catrin Moss ar catrin.moss@keepwalestidy.org
Mae ysgolion yng Nghaerdydd sy’n annog pobl ifanc a theuluoedd i deithio’n llesol i’r ysgol hefyd yn cefnogi eu cynnydd o ran meysydd Diogelwch, Amgylchedd a Bwyd a Ffitrwydd Ysgolion Iach. Bydd pobl ifanc yn dysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd yn ogystal â manteision teithio’n llesol i’r amgylchedd a’u hiechyd corfforol a’u lles meddyliol eu hunain. Drwy gynnwys myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach yn y gwaith o ddatblygu cynllun teithio llesol, gall ddangos bod yr ysgol yn cefnogi dull gweithredu ysgol gyfan o sicrhau iechyd a lles yn rhan o Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (CYIRhC). Mae teuluoedd a phobl ifanc sy’n teithio’n llesol i’r ysgol yn cefnogi eu hysgol i fod yn Ysgol Iach.
Mae lleoliadau cyn ysgol yng Nghaerdydd sy’n annog plant a theuluoedd i deithio’n llesol i’r lleoliad hefyd yn cefnogi eu cynnydd o ran y pynciau iechyd Diogelwch, Amgylchedd a Gweithgarwch Corfforol a Chwarae Actif yng Nghynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy (CCYIaCh) Caerdydd. Bydd plant yn dysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd yn ogystal â phrofi’r manteision i’w hiechyd corfforol a’u lles meddyliol eu hunain. Mae teuluoedd a phobl ifanc sy’n teithio’n llesol i leoliad cyn ysgol yn cefnogi eu lleoliad i fod yn Lleoliad Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy.