Phroject Gwella Trafnidiaeth Gorllewin Canol y Ddinas
Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnal adolygiad o drafnidiaeth Canol y Ddinas er mwyn nodi lle y gellir gwella seilwaith. Ar hyn o bryd, mae gan Ganol y Ddinas broblemau tagfeydd ac ansawdd aer gwael oherwydd nifer uchel o gerbydau sy’n teithio trwy’r Ddinas. Ffordd effeithiol o fynd i’r afael â’r problemau hyn yw creu mwy o gyfleoedd i bobl gerdded, beicio neu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Rydym wedi datblygu cynigion ar gyfer gwella trafnidiaeth gynaliadwy ar draws Canol y Ddinas i wella cysylltiadau rhwng cymunedau a chyrchfannau mawr, ac i wneud Canol y Ddinas yn lle mwy deniadol i fyw, gweithio, siopa a threulio amser ynddi.
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn ymwneud â Phroject Gwella Trafnidiaeth Gorllewin Canol y Ddinas, sy’n cynnwys ochr orllewinol Canol y Ddinas sef y Sgwâr Canolog, Heol y Porth a Stryd y Castell. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi wneud sylwadau ar y cynigion.
Ein nod yw alinio prosiect Gorllewin Canol y Ddinas gydag agor cyfnewidfa newydd yn y Sgwâr Canolog a rhaglen i fynd i’r afael â’r broblem ansawdd aer presennol yng Nghanol y Ddinas. Bydd y prosiect yn cyflwyno newidiadau i lwybrau allweddol yng Nghanol y Ddinas, a gweithredir y rhain fesul cam er mwyn achosi cyn lleied â phosibl o anghyfleustra.