Strategaeth Drafnidiaeth

Cymeradwywyd Strategaeth Trafnidiaeth Drafft Cyngor Dinas Caerdydd ym mis Hydref 2016.

Mae’r Strategaeth yn dwyn ynghyd mewn un ddogfen y polisïau a’r cynigion trafnidiaeth sydd yng Nghynllun Datblygu Lleol a Chynllun Trafnidiaeth Leol fabwysiedig y Cyngor.

Ei diben yw gwneud y canlynol:

  • codi ymwybyddiaeth o brif heriau trafnidiaeth Caerdydd dros yr ugain mlynedd nesaf;
  • tynnu sylw at y prif brojectau a chamau gweithredu y mae’r Cyngor yn cynnig ymgymryd â nhw i fynd i’r afael â’r heriau hyn ac i ehangu teithio cynaliadwy yng Nghaerdydd
  • bod yn sail ar gyfer cyfathrebiadau ac ymgysylltu cyhoeddus yn y dyfodol.

Mae’r ddogfen yn tynnu sylw at y canlynol:

  • yr heriau a’r cyfleoedd o ran trafnidiaeth a ddaw wrth i Gaerdydd dyfu yn y dyfodol;
  • y targed bod 50% o deithiau yn cael eu gwneud ar droed, beic neu drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2021, gan godi i 60% erbyn 2026;
  • blaenoriaethau trafnidiaeth y Cyngor – y camau gweithredu a’r projectau trafnidiaeth y bydd y Cyngor yn canolbwyntio arnynt dros y 10-20 mlynedd nesaf;
  • y cyfleoedd i wella seilwaith trafnidiaeth fel rhan o gynlluniau datblygu newydd;
  • y cyfle i ddatblygu system dramiau newydd ar gyfer Caerdydd yn rhan o system Metro rhanbarthol y dyfodol, wedi’i chynnig gan Lywodraeth Cymru;
  • sut caiff blaenoriaethau trafnidiaeth y Cyngor eu cyflawni, er enghraifft, trwy brojectau seilwaith wedi’u gwneud gan y Cyngor a gwelliannau trafnidiaeth wedi’u sicrhau yn rhan o ddatblygiadau newydd

Mae’r Strategaeth Trafnidiaeth yn ymrwymo i wneud y canlynol:

  • cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus llawn ar brojectau unigol y bydd eu hangen i gyflawni ein blaenoriaethau, ac ar strategaethau eraill fel Strategaeth Feicio Caerdydd

rhaglen o ymgysylltu a chyfathrebu i roi gwybodaeth am faterion trafnidiaeth yn ogystal â chynnydd ar brojectau unigol.

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 – Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

Gweld Project

Croesfan i Gerddwyr Heol y Porth

Gweld Project

Cyfnewidfa Drafnidiaeth – Mynedfa’r De

Gweld Project