Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.
Beicffordd 4.1 Parc Bute i Western Avenue
Beicffordd 4: Canol y Ddinas i Ogledd-Orllewin Caerdydd
Bydd Beicffordd 4 yn cynnig ffordd o ganol y ddinas i ogledd-orllewin Caerdydd. Bydd y llwybr yn ymuno â ffordd feicio ar Heol y Castell – CW2 – a fydd yn dechrau’n ddiweddarach eleni fel rhan o gynlluniau aer glân.
Bydd cyrchfannau a wasanaethir gan Feicffordd 4 yn cynnwys:
- Canol y Ddinas
- Parc Bute
- Gerddi Sophia
- Gorsaf fysus National Express
- Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
- Cae Criced Gerddi Sophia
- Pedal Power
- Ysgol Farchogaeth Caerdydd
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Pentref Llandaf
- Gorsaf Reilffordd Danescourt
- Datblygiad Plasdŵr
Bydd cam cyntaf Beicffordd 4 yn gwella cyfleusterau beicio drwy Erddi Sophia a Chaeau
Llandaf i Western Avenue