Cledrau Croesi Caerdydd

Dweud eich dweud ar brosiect Cledrau Caerdydd.

Mae Cyngor Caerdydd a Trafnidiaeth Cymru (TC) yn cydweithio i ddarparu tramffordd newydd o Gaerdydd Canolog i Fae Caerdydd, i gyflawni cam cyntaf Cledrau Caerdydd. Bydd yn gwella cysylltedd rhwng canol y ddinas a’r Bae, ac o fudd i’r ddinas a’r rhanbarth ehangach.

Bydd cam cyntaf y cynllun yn darparu:

  • Gorsaf 2 blatfform newydd ym maes parcio deheuol gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, gyda chyfnewidfa hawdd yng ngorsaf Caerdydd Canolog
  • Tramffordd newydd o’r maes parcio deheuol yng ngorsaf Caerdydd Canolog, yn croesi trwy Sgwâr Callaghan i ymuno â lein bresennol Bae Caerdydd
  • Trydydd platfform ychwanegol yng ngorsaf reilffordd Bae Caerdydd (yn ogystal â’r ail, sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd)
  • Gwelliannau i dir cyhoeddus ar y llwybr i gysylltu cymunedau, lleoedd ac atyniadau cyfagos.

Yn amodol ar gyllid, bydd Cledrau Caerdydd yn y pen draw yn rhedeg o ogledd-orllewin y ddinas yr holl ffordd i’r dwyrain o’r ddinas gan gysylltu â’r orsaf Parcffordd arfaethedig.

I ddechrau’r broses hon, rhaid adeiladu cam cyntaf y cynllun rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd. Bydd hyn o’r diwedd yn sicrhau bod Butetown wedi’i chysylltu’n iawn â chanol y ddinas, trwy’r dramffordd newydd, gan ddarparu mwy o gapasiti i drigolion ac ymwelwyr gael mynediad i’r ystod eang o atyniadau sydd gan Gaerdydd i’w cynnig.

Rydym yn cynnal ymgynghoriad fel y gallwch ddweud eich dweud ar y cynigion cyn i ni gyflwyno’r cynlluniau terfynol fel rhan o Orchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gwaith (y broses gynllunio ar gyfer prosiect fel hwn).

Gallwch weld y cynigion a’r deunyddiau ymgynghori ac ymateb i’r arolwg yma:  dweudeichdweud.trc.cymru/cledrau-croesi-caerdydd

Mae gennych tan 27 Hydref i roi eich barn i ni.

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 – Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

Gweld Project

Croesfan i Gerddwyr Heol y Porth

Gweld Project

Cyfnewidfa Drafnidiaeth – Mynedfa’r De

Gweld Project