Strategaeth blaenoriaeth bysus

​​​​​​​​Rydym am ei gwneud hi’n haws, yn fwy diogel, ac yn rhatach i bobl gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd.

Mae COVID-19 wedi newid ein harferion teithio. Mae llai o bobl yn dal i deithio ar fws na chyn y pandemig.

Rydym yn gwybod bod pobl eisiau gwasanaeth bws cyflymach a mwy dibynadwy. Rydym wedi datblygu strategaeth sy’n nodi sut y byddwn yn cyflawni newidiadau allweddol er mwyn:
  • helpu gweithredwyr bysus i redeg gwasanaethau bysus o ansawdd uwch, ac
  • annog mwy o bobl i ddewis teithio ar fws.
Hoffem wybod eich barn chi ar y strategaeth.

Ewch i dudalen ymgyngoriadau’r cyngor i ddarllen am y strategaeth ac i lenwi’r arolwg.

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Cledrau Croesi Caerdydd

Gweld Project

Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 – Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

Gweld Project

Croesfan i Gerddwyr Heol y Porth

Gweld Project