Terfynau Cyflymder 20mya – Y wybodaeth ddiweddaraf am eu gweithredu

Y sefyllfa genedlaethol:

Ym mis Mai 2019, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford mai polisi Llywodraeth Cymru oedd pennu terfyn 20mya diofyn cenedlaethol ar gyfer ardaloedd preswyl. Ers hynny mae gwaith wedi bod ar y gweill i baratoi ar gyfer y newid hwnnw.

Yr amserlen a gynigiwyd oedd pasio’r offeryn statudol ym mis Hydref 2021 a gweithredu’r newid yn y gyfraith ym mis Ebrill 2023.

Beth fydd effaith 20mya diofyn yn ei olygu?

Pan fydd y ddeddfwriaeth yn newid, bydd pob ffordd â therfyn cyflymder 20mya diofyn. Mae hyn yn golygu na chewch deithio’n gyflymach na 20mya yn ôl y gyfraith. Bydd rhai ffyrdd yn parhau â therfyn cyflymder 30mya a bydd gan y rhain arwyddion fel sydd gan ffyrdd â therfynau cyflymder uwch ar hyn o bryd.

Caiff unrhyw arwyddion yn nodi terfyn cyflymder 20mya eu tynnu ac ni fydd unrhyw arwyddion i’ch atgoffa am y terfyn cyflymder – yn debyg iawn fel ag y mae â’r ardaloedd terfyn cyflymder 30mya presennol.

Sut y caiff y terfynau newydd eu gorfodi?

Yr heddlu fydd yn gorfodi’r terfynau cyflymder.  Fodd bynnag, mae Cyngor Caerdydd yn gweithio gyda GanBwyll a Llywodraeth Cymru yn ystod y cam cyntaf i ddatblygu strategaeth orfodi.

Beth sy’n digwydd nawr?

Bydd y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd adeiledig yn newid ar 17 Medi 2023.

Dyma newid cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru y mae’n rhaid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gydymffurfio ag ef.

Pan fydd y ddeddfwriaeth yn newid, bydd pob ffordd â therfyn cyflymder 20mya diofyn. Mae hyn yn golygu na chewch deithio’n gyflymach na 20mya yn ôl y gyfraith. Bydd rhai ffyrdd yn parhau â therfyn cyflymder 30mya a bydd gan y rhain arwyddion fel sydd gan ffyrdd â therfynau cyflymder uwch ar hyn o bryd.

Caiff unrhyw arwyddion yn nodi terfyn cyflymder 20mya eu tynnu ac ni fydd unrhyw arwyddion i’ch atgoffa am y terfyn cyflymder – yn debyg iawn fel ag y mae â’r ardaloedd terfyn cyflymder 30mya presennol.

Dros y misoedd nesaf, fe welwch:

  • Broses Gorchymyn Rheoli Traffig (GRhT) yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus ar ffyrdd sydd wedi’u hasesu’n rhai priodol i’w cadw ar 30mya.
  • Gwaith i dynnu arwyddion 20mya gan ddechrau gyda marciau cylchol lonydd cerbydau a phyrth arafu a gorffen gyda’r arwyddion terfyn cyflymder 20mya statudol.
  • Gwaith i osod arwyddion 30mya lle bo hynny’n briodol ar ôl i’r ymgynghoriad GRhT ddod i ben – gwneir hyn tan y dyddiad Dod i Rym
  • Proses gyfathrebu dan arweiniad Llywodraeth Cymru i dynnu sylw’r cyhoedd at y newid

 

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd yn cydweithio’n agos gyda GanBwyll, y sefydliad sy’n gyfrifol am orfodi cyflymderau yng Nghymru i sicrhau bod gyrwyr yn ymwybodol o’r terfyn diofyn newydd.

Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol ledled Cymru ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalennau 20mya Llywodraeth Cymru.

Bydd y prosiect i newid arwyddion yn digwydd ar draws y ddinas ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd tra bod hyn yn digwydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd gan awdurdodau lleol 6 mis ar ôl 17 Medi 2023 i wirio bod arwyddion yn gywir.

Dolenni Defnyddiol:
Terfynau cyflymder 20mya | Is-bwnc | LLYW.CYMRU

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 – Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

Gweld Project

Croesfan i Gerddwyr Heol y Porth

Gweld Project

Cyfnewidfa Drafnidiaeth – Mynedfa’r De

Gweld Project