Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.
Cledrau Croesi Caerdydd
Dweud eich dweud ar brosiect Cledrau Caerdydd.
Mae Cyngor Caerdydd a Trafnidiaeth Cymru (TC) yn cydweithio i ddarparu tramffordd newydd o Gaerdydd Canolog i Fae Caerdydd, i gyflawni cam cyntaf Cledrau Caerdydd. Bydd yn gwella cysylltedd rhwng canol y ddinas a’r Bae, ac o fudd i’r ddinas a’r rhanbarth ehangach.
Bydd cam cyntaf y cynllun yn darparu:
- Gorsaf 2 blatfform newydd ym maes parcio deheuol gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, gyda chyfnewidfa hawdd yng ngorsaf Caerdydd Canolog
- Tramffordd newydd o’r maes parcio deheuol yng ngorsaf Caerdydd Canolog, yn croesi trwy Sgwâr Callaghan i ymuno â lein bresennol Bae Caerdydd
- Trydydd platfform ychwanegol yng ngorsaf reilffordd Bae Caerdydd (yn ogystal â’r ail, sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd)
- Gwelliannau i dir cyhoeddus ar y llwybr i gysylltu cymunedau, lleoedd ac atyniadau cyfagos.
Yn amodol ar gyllid, bydd Cledrau Caerdydd yn y pen draw yn rhedeg o ogledd-orllewin y ddinas yr holl ffordd i’r dwyrain o’r ddinas gan gysylltu â’r orsaf Parcffordd arfaethedig.
I ddechrau’r broses hon, rhaid adeiladu cam cyntaf y cynllun rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd. Bydd hyn o’r diwedd yn sicrhau bod Butetown wedi’i chysylltu’n iawn â chanol y ddinas, trwy’r dramffordd newydd, gan ddarparu mwy o gapasiti i drigolion ac ymwelwyr gael mynediad i’r ystod eang o atyniadau sydd gan Gaerdydd i’w cynnig.
Rydym yn cynnal ymgynghoriad fel y gallwch ddweud eich dweud ar y cynigion cyn i ni gyflwyno’r cynlluniau terfynol fel rhan o Orchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gwaith (y broses gynllunio ar gyfer prosiect fel hwn).
Gallwch weld y cynigion a’r deunyddiau ymgynghori ac ymateb i’r arolwg yma: dweudeichdweud.trc.cymru/cledrau-croesi-caerdydd
Mae gennych tan 27 Hydref i roi eich barn i ni.