Beicffyrdd Dros Dro

Gwelliannau Trafnidiaeth – Darpariaethau Dros Dro

Ers dechrau’r cyfnod cloi a’r mesurau ymbellhau cymdeithasol yn ystod pandemig Covid-19, mae capasiti trafnidiaeth gyhoeddus wedi bod yn gyfyngedig. Er mwyn hwyluso a galluogi mwy o deithiau, bydd cyfres dros dro a diogel o feicffyrdd yn cael eu lleoli ar hyd llwybrau strategol yn y ddinas. Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i sicrhau bod pob defnyddiwr ffordd yn ddiogel ac mae hyn yn cynnwys beicwyr newydd sy’n agored i niwed.

Y llwybr cyntaf yw’r Llwybr traws-ddinas.

Yr ail lwybr yw un Traws-ddinas De Caerdydd.

Diweddariad i gynlluniau a gyhoeddwyd

Ers ymgynghori, rydym wedi diwygio dyluniad y cynllun mewn ymateb i’r sylwadau. Yn West Grove, mae’r lôn feicio’n symud i ochr ogleddol y ffordd gerbydau. Yr unig fan lle gwaherddir troi i’r chwith fydd i East Grove.

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 – Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

Gweld Project

Croesfan i Gerddwyr Heol y Porth

Gweld Project

Cyfnewidfa Drafnidiaeth – Mynedfa’r De

Gweld Project