Cycleway 1.2: Cathays Terrace to UHW

Beicffordd 1.2 – Teras Cathays i ysbyty athrofaol cymru

Beicffordd 1: Canol y Ddinas i Ogledd Caerdydd

Bydd Beicffordd 1 yn cynnig llwybr o ganol y ddinas i ogledd Caerdydd. Bydd cyrchfannau a wasanaethir gan Feicffordd 1 yn cynnwys:

  • Canol y Ddinas
  • Theatr y Sherman
  • Gerddi Sophia
  • Llyfrgell Cathays
  • Canolfan Gymunedol Cathays
  • Gorsaf Cathays
  • Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Y Mynydd Bychan

Cwblhawyd rhan gyntaf y llwybr hwn yn 2019, gan greu trac beicio ar St Andrew’s Place a Senghennydd Road.

Beicffordd 1.2: Teras Cathays i Ysbyty Athrofaol Cymru

Bydd ail gam Beicffordd 1 yn gwella cyfleusterau beicio drwy Cathays Terrace, rhan o Whitchurch Road, Allensbank Road a King George V Drive.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 19 Mehefin 2020 a 31 Gorffennaf 2020.

Bydd y Cyngor yn cynnal gwaith priffyrdd ar Heol yr Eglwys Newydd a Heol Allensbank yn ystod y misoedd nesaf i osod y llwybr beiciau. Mae rhagor o wybodaeth am ddyddiadau adeiladu yn y PDF isod.

 

 

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Cledrau Croesi Caerdydd

Gweld Project

Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 – Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

Gweld Project

Croesfan i Gerddwyr Heol y Porth

Gweld Project