Dwyrain Canol y Ddinas

Yn dilyn ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd ym mis Mai y llynedd, mae Cynllun Trafnidiaeth Dwyrain Canol y Ddinas bellach wedi symud ymlaen at gam manwl a bydd ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd yn dechrau’r mis hwn am 8 wythnos.

Er mwyn cynorthwyo busnesau, trigolion ac aelodau o’r cyhoedd sy’n byw yn yr ardal ailddatblygu, cynhyrchwyd pecyn gwybodaeth, ynghyd â gwefan ymroddedig.

Ym mis Mai 2019, sefydlwyd nifer o ddigwyddiadau i roi gwybodaeth i’r cyhoedd am amrywiaeth o fesurau sydd wedi’u cynllunio i leihau llygredd aer yng nghanol y ddinas, yn enwedig Nitrogen Deuocsid. Mae ailgynllunio ffyrdd, i wella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn un o’r mesurau hyn.

Mae’r Cyngor bellach yn trafod y cynllun terfynol sy’n cynnwys:

Diwygio Cynllun Ffordd Ddwyreiniol Canol y Ddinas
Gweler Diwygio Cynllun Ffordd Ddwyreiniol Canol y Ddinas

Rydym hefyd wedi llunio pecyn Gweithredol i helpu i lywio cynllun newydd y ffordd. Mae hwn yn cynnwys mapiau a graffigwaith yn seiliedig ar yr ardaloedd canlynol:

  • Newidiadau i fynediad cyffredinol, parcio i breswylwyr  a map danfoniadau nad ydynt yn gerddwyr → Go to page
  • Newidiadau i lwybrau danfon ar gyfer ardal i gerddwyr yn Heol-y-Frenhines → Go to page
  • Map mynediad Maes Parcio → Go to page

The scheme also includes two new event spaces.

Cwr y Gamlas – Cam 1
Gweler pecyn Cwr y Gamlas
  • Adfer rhan o gamlas bwydo’r Doc yn ardal gyhoeddus werdd a chroesawgar.
  • Plannu bywiog gan gynnwys amrywiaeth o fflora gydol y flwyddyn, coed a gerddi glaw i gefnogi’r seilwaith SDC.
  • Trefniadau eistedd ar ffurf amffitheatr.
  • Mannau bwyta a chymdeithasu al fresco.
  • Seddi awyr agored ymhlith y plannu a chyda golygfeydd a synau dyfrffyrdd.
  • Cyfleuster safle tacsis wedi’i leoli wrth y gyffordd â Stryd Ogleddol Edward.
  • Pontydd a phlatfformau cantilifrog dros y gamlas.
  • Nodwedd rhaeadr.
  • Parcio beiciau yn y pen deheuol.
Man Cyhoeddus Ffordd y Brenin
Gweler pecyn Man Cyhoeddus Ffordd y Brenin
  • Lôn feicio dau gyfeiriad sydd ar wahan
  • Gwell mannau cyhoeddus a sgwâr digwyddiadau
  • Tanffordd i’w llenwi ac adeiladu croesfan i safon.
  • Cynlluniau plannu bywiog drwy gydol y flwyddyn a SDC
Sut i ymateb

Mae arolwg adborth wedi cael ei baratoi ac mae ar gael yn https://tinyurl.com/welcce

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Strategaeth blaenoriaeth bysus

Gweld Project

Cledrau Croesi Caerdydd

Gweld Project

Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 – Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

Gweld Project