Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.
Gorllewin Canol y Ddinas: Heol y Porth Gât Fysus
Fel yr ymgynghorwyd yn flaenorol, bydd gât fysus newydd yn cael ei gosod ar Heol y Porth erbyn 31 Hydref i sicrhau na all y ffordd hon gael ei defnyddio fel llwybr drwodd i’r naill gyfeiriad na’r llall gan unrhyw draffig ar wahân i fysus, tacsis, beicwyr a cherddwyr.
Gall preswylwyr sy’n byw ar Heol y Porth gael mynediad i’w heiddo o’r gogledd, gan y bydd Stryd y Castell yn agor ar yr un pryd, ac os aiff gyrwyr i Heol y Porth drwy gamgymeriad, bydd gwyriadau ar waith i sicrhau bod gan yrwyr opsiynau i droi rownd, fel nad oes rhaid iddynt yrru drwy’r gât fysus.