Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.
Croesfan i Gerddwyr Heol y Porth
Mae Cyngor Caerdydd yn datblygu cynigion ar gyfer croesfan newydd i gerddwyr ar Heol y Porth.
Bydd y groesfan barhaol hon yn cymryd lle’r groesfan dros dro i gerddwyr ar Heol y Porth, ger y gyffordd â Stryd y Cei.
Cafodd y groesfan dros dro ei rhoi ar waith i gynorthwyo cerddwyr ar Heol y Porth ar ôl i’r brif groesfan y tu allan i’r maes parcio a mynedfa’r stadiwm gael ei ddatgomisiynu er mwyn caniatáu lle ychwanegol i safleoedd bysus a mannau llwytho cerbydau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y PDF Pecyn Ymgynghori isod