Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.
Gorllewin Canol y Ddinas – Y Sgwâr Canolog
Yn dilyn ymgynghoriad ym mis Mai 2019 fel rhan o Gynlluniau Aer Glân y Ddinas ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid, bwriedir dechrau ar y gwaith o adeiladu Cam 1 Gorllewin Canol y Ddinas: Y Sgwâr Canolog yn Haf 2020.
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys:
- Lôn feicio ar wahân newydd ar ddwy ochr Stryd Wood.
- Croesfan newydd a gwell i gerddwyr drwy ardal gyfan y project.
- Porth blaenoriaethu bysus ar Heol y Porth Isaf
- Tir cyhoeddus gwell
- Gerddi glaw a mwy o fioamrywiaeth