Beicffordd 4.2

Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar opsiynau arfaethedig ar gyfer Beic˜ordd 4.2 a fydd yn cysylltu Rhodfa’r Gorllewin â phentref Llandaf.

Bydd y pum opsiwn yr ymgynghorir arnynt yn caniatáu i feicwyr groesi Rhodfa’r Gorllewin yn ddiogel gan ddefnyddio croesfan twcan newydd, ar hyd un o’r llwybrau canlynol:

Opsiwn A:
Byddai’r llwybr beicio newydd yn defnyddio’r llwybr presennol ar ochr ogleddol campws Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, ac yn parhau gyfochr â’r llwybr ger yr afon cyn mynd tua’r de drwy Ddôl Llandaf at Lawnt y Gadeirlan, yna Heol y Bont ac yn olaf at Heol Llantrisant.

Opsiwn B:
Byddai’r llwybr hwn yn mynd â beicwyr tua’r gorllewin ar hyd llwybr yr afon, gan ymadael tua’r dwyrain ger y clwb rhwyfo ar Heol y Bont. Byddai’r llwybr beicio wedyn yn mynd drwy’r datblygiad newydd a gynigiwyd ar safle blaenorol BBC Cymru ac at Heol Llantrisant.

Opsiwn C:
Byddai’r trydydd opsiwn yn teithio ar hyd ochr ddwyreiniol Rhodfa’r Gorllewin a byddai’n defnyddio’r groesfan bresennol i groesi’r ffordd, a fyddai’n cael ei gwneud yn groesfan twcan newydd. Byddai’r llwybr hwn ar hyd y llwybr presennol sy’n mynd tua’r de o Fynwent Llandaf at Glos y Cadeirlan, Lawnt y Gadeirlan, Heol y Bont ac yna i Heol Llantrisant.

Opsiwn D:
Y pedwerydd opsiwn fyddai defnyddio’r llwybr presennol ar ochr ogleddol campws Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, gan ymuno â’r llwybr ger yr afon, cyn ymadael tua’r dwyrain ger y clwb rhwyfo ar Heol y Bont, drwy hen stiwdios BBC Cymru Wales i Heol Llantrisant.

Opsiwn E:
Byddai’r opsiwn olaf hefyd yn defnyddio’r llwybr presennol ar ochr ogleddol campws Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, gan barhau ar hyd y llwybr sydd gyfochr â’r llwybr ger yr afon.

Byddai’r llwybr beicio wedyn yn mynd tua’r de drwy Ddôl Llandaf tuag at Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac yna tua’r gorllewin i ymuno â’r llwybr ger yr afon, cyn ymadael tua’r dwyrain ger y clwb rhwyfo ar Heol y Bont, drwy hen stiwdios BBC Cymru Wales at Heol Llantrisant.

Dweud Eich Dweud

Dyma gam cyntaf y broses ymgynghori. Rydym yn dechrau gyda phum opsiwn arfaethedig ac mae angen eich mewnbwn arnom i benderfynu pa opsiwn y byddwn yn ei ddatblygu i gynllunio camau cyn cylch ymgynghori arall ar y dyluniad manwl.

I gofrestru eich dewis o opsiynau a rhoi adborth, dilynwch y ddolen hon i’n harolwg https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=161615263155

Ar gyfer ymholiadau cy˜redinol, cysylltwch â polisitrafnidiaeth@caerdydd.gov.uk

Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor tan 4 Mai 2021

Projectau eraill

Mae Cyngor Caerdydd bob amser yn gweithio ar brojectau i wella pob modd teithio, a mae’n awyddus i sicrhau bod gan bawb y cyfle i fwydo syniadau a meddyliau yn ol. Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith sy’n mynd ymlaen. Cliciwch ar y dolenni isod i weld mwy.

Strategaeth blaenoriaeth bysus

Gweld Project

Cledrau Croesi Caerdydd

Gweld Project

Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 – Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

Gweld Project